
Enable job alerts via email!
Generate a tailored resume in minutes
Land an interview and earn more. Learn more
Ysgol addysg uwch sy'n chwilio am athro/athrawes frwdfrydig sy'n gyfrifol am gynnal safonau disgyblion a datblygu Rhifedd. Mae gofynion yn cynnwys gwybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru a'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg. Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yn Pentrellwyn, Gogledd Cymru gyda chyflog rhwng £33,731 a £51,942.
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: 33,731 - 51,942 *
‘Llwybr Llwyddiant, Lles a Llawenydd’
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd T Llew Jones yn awyddus i benodi athro/athrawes ragorol syn frwdfrydig, ymroddgar a bydd yn gyfrifol am gynnal a chodi safonau disgyblion, a chyfrannu at ddatblygiad parhaus yr ysgol hapus hon. Rydym yn chwilio am athro/athrawes ragorol i addysgu yng Nhyfnod Allweddol 2 ac ym mlwyddyn 6 yn bendol. Bydd y athro/athrawes yn gyfrifol am arwain Rhifedd ar draws yr ysgol. Mae gymuned yr ysgol yn un ofalgar, egnïol a chynhwysol sydd yn sicrhau bod disgyblion yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon brwdfrydig, profiadol, blaengar ac ysbrydoledig syn meddu ar sgiliau ragorol i'r swydd dysgu hon. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymarferydd ardderchog o fewn y dosbarth gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i godi safonau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio'n agos gydag athrawon eraill ar draws yr Ysgol i ddatblygu profiadau dysgu sy'n ateb anghenion lles ac addysgol y disgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannusâ gwybodaeth a dealltwriaeth gref o egwyddorion Cwricwlwm i Gymru a chynnydd disgyblion. Mi fydd y gallu i fod yn hyblyg ac i weithio'n effeithiol fel rhan o dȋm ynghyd â'r parodrwydd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol e.e yr Urdd yn bwysig. Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd yma.
Swydd llawn amser ydi hon.
Cwricwlwm Ysgol T Llew Jones
Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu ậ'r Pennaeth Mrs Rhian Lloyd ebost: lloydm38@hwbcymru.net neu ffonio 01239 654 553.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi/phenodi i'r swydd hon.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Schools and Culture: We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows: